DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Cyfarfod y Grwp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE

DYDDIAD

14 Gorffennaf 2022

GAN

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

 

 

Cynrychiolais Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod rhithwir o'r Grŵp Rhyngweinidogol (IMG) ar gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ar 4 Gorffennaf. Roedd y Gwir Anrhydeddus Michael Ellis QC AS yn y cyfarfod, Tâl-feistr Cyffredinol a Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, a Neil Gray MSP, Gweinidog Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban. Roedd uwch swyddog o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon yn bresennol fel sylwedydd.

 

Roedd yr agenda yn cynnwys eitemau ar gynnydd a blaenoriaethau yn ymwneud â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) a Bil Protocol Gogledd Iwerddon. Trafodwyd cyfraith yr UE a ddargedwir am gyfnod byr hefyd.

 

Yn fy ymateb i'r wybodaeth ddiweddaraf am y TCA, roeddwn yn datgan bwysigrwydd ein cyfraniad parhaus at Raglenni'r UE gan gynnwys Horizon Europe ac, ar fasnachu trydan, codais fater diogelwch hirdymor a'r cyfle i fasnachu ag Iwerddon. Trafodais hefyd dwf Technoleg Ariannol yng Nghymru. Mynegais bwysigrwydd dychwelyd i'r bwrdd trafod i ddatrys problemau.

 

O ran Mesur Protocol Gogledd Iwerddon, codais fater y diffyg ymgysylltu â'r Llywodraethau Datganoledig cyn ei gyflwyno a hefyd feysydd sy'n peri pryder.

 

Ni chadarnhawyd dyddiad cyfarfod nesaf yr IMG, ond cytunodd pawb fod angen cyfarfod ar ôl yr haf.